Mae Prosiect ELEV8
ELEV8 yw'r man cychwyn ar gyfer artistiaid MOBO newydd o Gymru sydd rhwng 18 a 25 oed. Gwthia dy sain i'r lefel nesaf, dysga am y diwydiant, ac ymuna â chymuned greadigol sy'n cefnogi dy daith.
Wyth mis, cyfleoedd diddiwedd.
Mentora, cynhyrchu ymarferol, preswylfeydd stiwdio, dosbarthiadau meistr, a chyfleoedd perfformio byw – gan gynnwys yn FOCUS Wales, gŵyl arddangos doniau ryngwladol Wrecsam. Erbyn diwedd y prosiect, bydd gen ti’r sgiliau, yr hyder a'r profiad i ryddhau dy gerddoriaeth i safon broffesiynol.
Mae sesiynau ELEV8 yn digwydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd ac mewn stiwdios gydag offer ardderchog yn ardal Bae Caerdydd. Hefyd, bydd preswylfa stiwdio ddwys yn Brixton, Llundain yn cynnig profiad ymarferol gyda chynhyrchwyr o'r radd flaenaf a blas o sîn gerddoriaeth gwledydd Prydain.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth a sut i wneud cais yma: