Comisiynau Celfyddydau Anabl a/neu Fyddar Celfyddydau Anabledd Cymru 2024
Sut brofiad yw bod chi’ch hun? Beth yw eich profiad byw? Pa safbwyntiau unigryw sydd gennych chi fel person anabl? Mae Celfyddydau Anabledd Cymru eisiau i chi eu ddangos i nhw trwy gynhyrchu celf ragorol, mewn unrhyw ffurf celf.
Byddwn ni'n dewis wyth artist i dderbyn £1250 yr un i helpu i ddod â'r syniadau hyn yn fyw.
I ymgeisio:
Rhaid i chi fod yn aelod DAC. Ymunwch yma: bit.ly/DAC-Member
Mae aelodaeth am ddim i bawb sy'n hunan-adnabod yn anabl neu'n fyddar yn ôl y model cymdeithasol o anabledd.
Cyflwyno cais erbyn dydd Mawrth 19 Tachwedd:
Cyflwynwch hyd at 500 o eiriau neu hyd at 5 munud o recordiad fideo neu sain, gyda rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi'ch hun, eich ymarfer celfyddydol, pa waith rydych chi'n bwriadu ei gynhyrchu a sut bydd y gwaith yn adlewyrchu eich profiad fel person anabl neu fyddar. Gall cyflwyniadau fod mewn Iaith Arwyddion Prydain. Gallwch hefyd gynnwys enghreifftiau o'ch gwaith blaenorol naill ai fel dolenni neu uwchlwythiadau.
Bydd ceisiadau’n cael eu beirniadu ar:
- Potensial creadigol y syniad.
- Potensial y syniad o amlygu profiad byw.
- Potensial y cyfle i ddatblygu gyrfa’r artist.
Bydd o leiaf dau gomisiwn yn iaith Gymraeg. Rydym hefyd yn arbennig yn croesawu ceisiadau sy'n archwilio hil neu natur o safbwynt anabledd.
Os oes angen y wybodaeth hon arnoch mewn fformat arall neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â post@dacymru.com neu 07726 112784
Ffurflen cais: https://dacymru.fillout.com/DACCommissions2024