Cronfa Tradd Fund
Mae Cronfa Tradd yn gronfa newydd sbon sydd wedi’i chynllunio’n benodol i gefnogi cerddorion, mudiadau a grwpiau sy’n gweithio â thraddodiadau cerddorol, o unrhyw gefndir diwylliannol, i ddatblygu eu gwaith trwy ymgysylltu ystyrlon â chymunedau.
Mae’r ffocws ar weithgarwch cymunedol a chymryd rhan, yn hytrach nag ar berfformiadau neu greu gwaith at ddibenion cyflwyno yn unig. Dylai prosiectau archwilio ffyrdd i bobl gymryd rhan, rhannu a chysylltu trwy gerddoriaeth draddodiadol mewn ffordd gydweithredol.
- Grantiau llai (hyd at £10,000) i gefnogi artistiaid sy’n arwain prosiectau cymunedol ar lawr gwlad.
- Dyfarniadau mwy (£2,000–£25,000) i gefnogi partneriaethau rhwng mudiadau a cherddorion i gydweithio i ddatblygu cerddoriaeth draddodiadol mewn cymunedau.
Dyddiad cau derbyn y ffurflen gais yw 17:00 dydd Mercher 8 Ebrill 2026. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth a sut i wneud cais ar wefan Tŷ Cerdd.