Cyflwyniad i Gyfansoddi: Cymru 2026
Bydd y cyfansoddwyr hyn yn cael adborth arbenigol gan gerddorion proffesiynol yn ogystal â mentora gan gyfansoddwyr ac arweinyddion o'r radd flaenaf! Eleni, bydd y prosiect yn cael ei arwain gan Arweinydd Jac Van Steen, a’r Cyfansoddwr Cysylltiedig Gavin Higgins.
Mae’r prosiect blynyddol hwn a’r cyngerdd sy’n uchafbwynt iddo, yn cael ei redeg ar y cyd â Nimbus Lyrita Arts, Tŷ Cerdd, Chyfansoddwyr Cymru, Gŵyl Bro Morgannwg a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru, ac mae’n cefnogi’r gwaith o ddatblygu a thynnu sylw at dalent cyfansoddi o Gymru, ac yng Nghymru.
Dyddiadau
Diwrnodau Gweithdy: 11 & 12 Chwefror 2026 - Mynediad am ddim
Ymarferion a Chyngerdd: 13 Chwefror 2026
Archebwch docynnau ar wefan y BBC.
Sut mae gwneud cais?
Y cyfnod ymgeisio nesaf ym mis Medi 2026.
Bydd 6 sgôr yn cael eu dewis ar gyfer y prosiect.
Croesewir ceisiadau gan gyfansoddwyr sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:
• Rhai sydd wedi’u geni, sy’n byw neu’n astudio yng Nghymru
• Dros 18
Gellir dod o hyd i ganllawiau, meini prawf a manylion cyflwyno yma.
Os ydych chi’n cael unrhyw drafferth gyda’r ddolen, mae croeso i chi gysylltu â now@bbc.co.uk.