• English
  • Cysylltwch â Ni
  • English

Cadw Sŵn - ar agor i geisiadau

Mae Cadw Sŵn yn chwilio am artistiaid a pheirianwyr sain rhwng 18 a 25 oed o bob lefel o brofiad i wneud cais.

Sylwch, cynhelir y prosiect hwn drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn croesawu ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg o bob lefel.

Eleni, mae Cadw Sŵn yn rhedeg o'r 20fed-25ain o Orffennaf 2026. Dewisir dau grŵp i gymryd rhan. Bydd grŵp un yn y stiwdio rhwng yr 20fed-22ain, ac yna bydd grŵp dau yn y stiwdio rhwng y 23ain-25ain. Diwrnod un y sesiynau yw i'r artistiaid ysgrifennu a chyfansoddi, ac yna'r ddau ddiwrnod canlynol i recordio.

I gael rhagor o wybodaeth a gwneud cais, cliciwch ar y ddolen hon i'r ffurflen gais.