Bwrsariaethau ar gael ar gyfer Classical:NEXT Budapest Ebrill 2026
Classical:NEXT yw’r hwb rhwydweithio a chyfnewid byd-eang sy’n benodol ar gyfer cerddoriaeth glasurol a chelf, i bob gweithiwr proffesiynol – yn artistiaid, rheolwyr, cyflwynwyr, cerddorfeydd, labeli, addysgwyr, y wasg, y cyfryngau, cyhoeddwyr a mwy. Mae’r digwyddiad yn cynnwys cynhadledd ryngweithiol, cyflwyniadau i brosiectau, cyngherddau arddangos, expo, a rhwydweithio. Trwy gymryd rhan yn Classical:NEXT, byddwch yn ymuno â mwy na 1,000 o weithwyr proffesiynol o dros 45 gwlad ledled y byd.
Cynhelir y digwyddiad eleni ym Mwdapest rhwng 8 a 11 Ebrill, ac mae Tŷ Cerdd (gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru) yn cynnig dau fwrsari i gefnogi cynrychiolwyr i’w fynychu.
Bydd Tŷ Cerdd yn rheoli presenoldeb Cymru yn y digwyddiad – gan gynnwys stondin Cymru/Wales yn yr expo. Bydd deiliaid bwrsariaethau yn cael llety a thocyn cynrychiolwyr wedi'i archebu ar eu cyfer, a byddant yn cael rhywfaint o gymorth tuag at deithio a chynhaliaeth.
I unrhyw sefydliadau neu unigolion sydd eisiau dysgu mwy am Classical:NEXT, bydd sesiwn Zoom ddydd Mercher 28 Ionawr am 17.00.
Am ragor o wybodaeth ar sut i wneud cais, ewch i wefan Tŷ Cerdd.