Brwydr y Bandiau
Mae'r prosiect yn bartneriaeth rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol (Maes B) a'r BBC i gael hyd i dalent cerddoriaeth gyfoes Cymraeg newydd.
Os wyt ti rhwng 16 a 25 oed ac yn awyddus i fod yn rhan o'r sin gerddoriaeth Gymraeg, beth am gymryd rhan yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau?
Y dyddiad cau yw 1 Mai 2023 ac mae'r manylion a'r ffurflen gais i gyd ar wefan Eisteddfod.
Pwy sy’n gallu ymgeisio ar gyfer Brwydr y Bandiau?
Mae Brwydr y Bandiau yn agored i fandiau / artistiaid sy’n cyfansoddi, cynhyrchu a pherfformio cerddoriaeth boblogaidd gyfoes wreiddiol yn y Gymraeg. Mae’r genres cyfoes hyn yn cynnwys indie, electroneg, trefol, MOBO, pop, roc, byd, canu gwerin cyfoes ac unrhyw genres cerddorol cyfoes eraill newydd sy’n dod i’r amlwg ar hyn o bryd.
Sut mae cymryd rhan?
Rownd 1 - Anfona ddolen i demo neu recordiad fideo o set hyd at 15 munud i gynnwys rhwng 2 – 4 cân wreiddiol Gymraeg yn y ffurflen gais ar waelod y dudalen yma.
Rownd 2 - Bydd y beirniaid yn dewis pedwar band neu artist i fynd i'r rownd nesaf:
- recordio 2 gân mewn set byw yng Nghlwb Ifor Bach neu leoliad yng ngogledd Cymru gyda'r caneuon yn cael eu darlledu ar Radio Cymru ac ar blatfformau digidol yn arwain at yr Eisteddfod
- berfformio set byw 20 munud o ganeuon gwreiddiol Cymraeg (neu yn ddi-eiriau) ar Lwyfan y Maes ar ddydd Mercher yr Eisteddfod cyn cyhoeddi enw'r artist/band buddugol
- yr artist/band buddugol i berfformio ar lwyfan Maes B nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod