Dewch yn Ymddiriedolwr ar gyfer Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru
Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn chwilio am hyd at 4 ymddiriedolwr a all helpu i arloesi, cryfhau sgiliau a mwyhau eu heffaith.
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan:
• Siaradwyr Cymraeg
• Pobl sy'n byw neu'n gweithio yng nghanolbarth/gogledd Cymru
• Pobl o gefndiroedd sydd ar hyn o bryd heb gynrychiolaeth ddigonol yn sectorau creadigol Cymru, fel y rhai sy'n byw ag anabledd, o'r Mwyafrif Byd-eang neu o gefndir incwm isel.
Yn ogystal â'r rhai sydd â:
• Arbenigedd cyfreithiol
• Profiad codi arian
• Sgiliau marchnata a lobïo
Rydym hefyd yn gwerthfawrogi darpar ymddiriedolwyr sy'n deall o leiaf un maes o'n gwaith creadigol ac sydd wedi ymrwymo i gefnogi cenedlaethau'r dyfodol.
SUT I WNEUD CAIS
I fynegi diddordeb mewn dod yn Ymddiriedolwr, anfonwch CV a llythyr eglurhaol byr at nyaw@nyaw.org.uk.
Y dyddiad cau ar gyfer y rownd recriwtio hon yw 1 Rhagfyr 2025.