Cyngor Celfyddydau Cymru - Camau Creadigol
Nod y rhaglen hon yw cefnogi unigolion a sefydliadau sydd wedi wynebu rhwystrau i gael mynediad at cyllid. Nod y Camau Creadigol yw mynd i'r afael â hyn drwy gefnogi artistiaid, pobl greadigol a sefydliadau drwy gydol eu taith ddatblygiadol.
Gallwch wneud cais am y maes Unigol os ydych chi'n artist neu'n berson creadigol sy'n nodi eu bod yn amrywiol yn ethnig ac yn ddiwylliannol, yn Fyddar, anabl a/neu niwroamrywiol, neu fel rhywun sydd wedi profi hiliaeth neu wahaniaethu.
Gallwch ymgeisio am gyllid rhwng £500 a £10,000, cofiwch fod angen i chi ganiatáu o leiaf 6 wythnos waith rhwng y dyddiad cau a'r dyddiad cychwyn ar gyfer eich prosiect.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau i'r rhaglen Camau Creadigol yw 5pm, diwrnod olaf pob mis.
Lawrlwythwch y manylion ymgeisio ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru.