Amlen Cymru - Cadw Sŵn
Rhwng 18-25 o Dachwedd, bydd Amlen Cymru yn mynd â 2 grŵp o gerddorion a pheirianwyr rhwng 18-25 i stiwdio Giant Wafer, ble caent 3 diwrnod yr un i gyfansoddi, recordio, a gorffen trac, dan oruchwyliaeth y cynhyrchydd a cherddor profiadol, Llŷr Pari.
Bydd y traciau yn cael eu rhyddhau fel senglau ar label newydd Beacons Cymru, gyda fideos wedi eu creu yn dogfennu’r sesiynau yn y stiwdio.
Dysgwch fwy ac ymgeisiwch am Cadw Sŵn yma.