Ffotograffydd Miwsig
Mae Ffotograffwyr Cerddoriaeth yn cymryd delweddau masnachol neu greadigol o fandiau a cherddorion ar gyfer marchnata, cyfryngau cymdeithasol, cloriau albwm ac ati.
Mae ffotograffiaeth cerddoriaeth yn ffurf ar gelfyddyd! Mae ffotograffwyr yn gweithio'n agos gydag artistiaid gan sicrhau bod y delweddau'n cyd-fynd â'u esthetig, eu brandio, a'u defnydd arfaethedig o'r delweddau.
Gall ffotograffwyr cerddoriaeth weithio o dan asiantaeth, sefydliad neu'n llawrydd. Mae ffotograffwyr cerddoriaeth yn gweithio'n agos gyda rheolwyr artist i olygu delweddau ar gyfer ymgyrchoedd hyrwyddo ac allfeydd cyfryngau artist fel cyfryngau cymdeithasol a gwefannau.
Mae angen y sgiliau canlynol ar ffotograffwyr cerddoriaeth:
Profiad gyda chamerâu digidol a rhai nad ydynt yn ddigidol
Llygad creadigol
Yn gyfarwydd â meddalwedd safonol y diwydiant fel Photoshop
Rheoli amser: cydbwyso llwythi gwaith a chwrdd â therfynau amser
Rheoli pobl
Dyma rai adnoddau i archwilio mwy!
https://www.prospects.ac.uk/job-profiles/photographer#skills
https://garysheerphotography.com/what-does-music-photographer-do